Benelux

Article in other languages:

Benelux

Grŵp o dair wlad yng ngorllewin Ewrop sy'n cynnwys Gwlad Belg, yr Iseldiroedd a Lwcsembwrg yw'r Benelux. Mae'r enw yn gyfuniad dechrau enw pob gwlad (Belge - Nederlands - Luxembourg). Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol er mwyn sefydlu "Undeb Economaidd Benelux".

Sefydlwyd yr Undeb Economaidd Benelux (Iseldireg Benelux Economische Unie, Ffrangeg Union Économique Benelux) ym 1944 er mwyn lleihau rhwystrau yn cyfyngu symudiad rhydd gweithwyr, cyfalaf, nwyddau a gwasanaethau rhwng y tair gwlad. Cryfhawyd y cysylltiadau ar 3 Chwefror 1958, pryd llofnodwyd cytundeb yn Den Haag yn sefydlu undeb economaidd. Roedd sefydlu'r undeb yn gyfraniad pwysig tuag at greu y Gymuned Economaidd Ewropeaidd (wedyn yr Undeb Ewropeaidd), er i'r UE ddatblygu o'r Gymuned Ewropeaidd Glo a Dur (ECSC).

Yn ogystal â Gorllewin yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal roedd chwaraeodd y tair gwlad rôl bwysig wrth sefydlu'r ECSC, yr EEC a'r UE.

Cysylltiadau allanol

Questions for article: au est benelux map, benelux, benelux-map, države beneluxa, resperate, satelitski snimak zemlje beneluksa, zapadna afrika - gvinejske zemlje, zemlje beneluxa

This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.


IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.