|
Article in other languages:
|
Mae'r erthygl hwn yn cyfeirio at ddiet dyn, ar gyfer diet anifeiliaid sy'n seiliedig ar blanhigion gweler llysyddiaeth Diet sy'n eithrio cig (gan gynnyws helwrieth, pysgod, dofendod ac unrhyw sgil gynyrch lladd anifeiliad) yw llysieuaeth.[1][2] Mae sawl amrywiaeth ar y ddiet sy'n eithrio wtau a neu unrhyw gynnyrch anifeiliaid megis cynnyrch llaeth a mêl. Ffruf o lysieuaeth yw diet fegan, sy'n eithrio pob cynnyrch anifeiliaid megis cig, pysgod, cynnyrch llaeth, wyau a mîel. Mae feganiaeth llym hefyd yn eithrio'r defnydd o gynnyrch anifeiliad megis gwlan, sidan, lledr a ffwr ar gyfer gwisg neu addurn, er nad yw rhain yn ymwneud â marwolaeth neu lladdfa anifail.[3] Mae'r rhanfwyaf o lysieuwyr yn bwyta cynyrch llaeth ac wyau. Mae llysieuaeth-lactos yn cynnwys cynnyrch llaeth ond yn eithrio wyau, llysieuaeth-ofo yn cynnwys wyau ond nid cynnyrch llaeth, ac mae llysieuaeth-lactos-ofo yn cynnwys wyau a chynnyrch llaeth. Mae diet rhannol-lysieuaeth yn cynnwys bwydydd llysiaul yn bennaf, ond hefyd yn cynnwys pysgod ac weithiau dofendod, yn ogstal ac wyau a chynnyrch llaeth. Mae'r cysylltiad rhwng rhannol-lysieuaeth a gwir lysieuaeth yn gyffredin yn achosi cymysgedd yn yr eirfa, yn arbennig llysieuaeth-pysgod sy'n cynnwys pysgod, a cham-gategoreiddio nifer o ddietau fel rhai llysieuol.[4][5] Dechrewyd defnyddio'r term llysieuwyr yn gyffredin gan Cymdeithas y Llysieuwyr, cyn gynhared a 1847, mae'r gymdeithas yn condemnio cysylltiad dietau rhannol-lysieuaeth fel llysieuaeth dilys; mae'n gymdeithas yn dweud nad yw bwyta pysgod yn lysieuol.[6] Mae'r rhesymau drost ddewis llysiaeuaeth yn amrywio o foesoldeb, crefydd, diwylliant, moeseg, estheteg, amgylchedd, cymdeithas, economi, gwleidyddiaeth, blas neu iechyd. Mae dietau llysieuol sydd wedi eu cynllunio'n gywir wedi eu canfod i ateb anghenion maeth pob cyfnod o fywyd, ac mae astudiaethau ehangach wedi dangos fod llysieuaeth yn arwain i debygolrwydd llai o ddatblygu cancr, clefyd y galon ischaemig, a chlefydau eraill.[7][8][9][10] Gweler hefydReferences
Dolenni allanol
Questions for article: |
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.