|
Article in other languages:
|
Prifddinas yr Eidal yw Rhufain (Roma yn Eidaleg a Lladin). Saif ar lannau Afon Tiber tua 30 km o lan y Môr Canoldir. Lleolir Dinas y Fatican, sef sedd y Pab a'r Eglwys Gatholig Rufeinig mewn clofan yng nghanol y ddinas. Yn ystod ei hanes hir bu Rhufain yn brifddinas ar y Deyrnas Rufeinig, y Weriniaeth Rufeinig, a'r Ymerodraeth Rufeinig. Yn ôl y chwedl sefydlwyd y dref gan Romulus, gefaill Remus ar 21 Ebrill, 753 C.C., a laddodd ei frawd Remus yn ddiweddarach. Y dyddiad hwn yw sylfaen y calendr Rhufeinig a chalendr Julius (Ab urbe condita). Roedd Romulus a Remus yn blant i'r duw Mawrth a chawsant eu magu gan fleiddes (yn Eidaleg, La Lupa Capitolina). Sefydlwyd Rhufain ar Fryn yr Haul (sef Bryn Palatîn), a ehangwyd i gynnwys Saith Bryn Rhufain: Bryn Palatîn, Bryn Aventîn, Bryn Capitolîn, Bryn Quirinal, Bryn Viminal, Bryn Esquilîn a Bryn Caelian. Enwyd y rhain ar ôl y lleuad, Mercher, Gwener, Mawrth, Iau a Sadwrn. Mae amffitheatr y Colosseum a theml y Pantheon ymhlith adeiladau enwocaf y ddinas. Daw y Circus Maximus a'r Domus Aurea, plasty'r ymerawdwr Nero, hefyd o gyfnod yr Ymerodraeth. Mae nifer o symbolau o ddinas Rhufain, gan gynnwys yr Eryr Ymerodrol, Y Fleiddes Gapitolinaidd a'r llythrennau SPQR, sydd yn sefyll am senatus populusque Romanus (senedd a phobl Rhufain), i'w gweld ledled y ddinas hyd heddiw. Adeiladau a cofadeiladau modern
Pobl o Rufain
Dolenni allanol
Questions for article: amffitheatr rhufeinig, rhufain |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
This article is from Wikipedia. All text is available under the terms of the GNU Free Documentation License.
IHS Europe: Infrared Heating Systems for Home and Business.